Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 3 Ebrill 2017
Amser: 14.00 -
16.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3917
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Gawain Evans, Llywodraeth Cymru Shan Morgan, Llywodraeth Cymru David Richards, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock Ben Robertson Nick Selwyn |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Craffodd y Pwyllgor ar Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol; David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu; a Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru ynghylch Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau 2015-16.
3.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol y byddai'n:
· Ystyried a yw'r trothwy o £25k ar gyfer tendro a chaffael yn dal i fod yn drothwy priodol, ac ysgrifennu at y Pwyllgor gyda'i chasgliadau;
· Darparu nodyn ar y safle de minimus o ran graddfa'r cysylltiadau sydd wedi'u gosod i'w tendro, a nodi a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod y safle hon yn cynnig gwerth am arian;
· Darparu nodyn gyda'r gwerth a'r modd y mae'r grantiau a ddyfarnwyd wedi cael eu rhannu ar gyfer iechyd, awdurdodau lleol a'r trydydd sector yn 2015-16;
· Darparu dadansoddiad, gan gynnwys unrhyw arbedion, a wnaed o ran costau gweinyddol yn y Ganolfan Ragoriaeth yn 2015-16; a
· Darparu'r telerau ar gyfer diswyddo i staff a effeithir o ganlyniad i'r ffaith bod Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben yn raddol.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor ar gynnig Llywodraeth Cymru i alinio adroddiadau yn y dyfodol gyda chyhoeddi'r adroddiad a'r cyfrifon blynyddol.
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor friff ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch ei adroddiad diweddaraf ar drosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i'r mater hwn.
7.1 Trafododd yr Aelodau y llythyr drafft, a chytunwyd arno, yn amodol ar rai mân newidiadau.
8.1 Trafododd yr Aelodau y papur ar y materion allweddol.